Clwb open / Clwb ar agor

05/09/21

Following a lengthy shutdown due to flood damage and the Covid-19 lockdowns, Clwb y Bont has re-opened its doors for specific events from August through to October 2021.

There is still building work and refurbishments to be completed which will entail another shutdown, for a shorter period of time, before Christmas. Clwb is currently operating a bottle bar with a wide choice of quality products from local craft breweries, including Grey Trees, Twt Lol, Gwynt y Ddraig, Tomos Watkin and Glamorgan Brewery.

Wedi bod ar gau am gyfnod hir yn dilyn effaith llifogydd a chlo mawr Covid-19, mae Clwb y Bont wedi ail-agor y drysau ar gyfer digwyddiadau penodol o Awst i Hydref 2021.

Mae gwaith adeiladu ac addurno eto i’w gwblhau fydd yn golygu cau lawr eto am gyfnod byrach cyn y Nadolig. Mae’r Clwb ar hyn o bryd yn cynnig bar poteli gydag arlwy o ddiodydd o fragdai crefft lleol, gan gynnwys Grey Trees, Twt Lol, Gwyny y Ddraig, Tomos Watkin a Bragdy Morgannwg.

Murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ Mural

12/07/19

Mae’r gwaith o osod murlun Cofiwch Dryweryn ar wal ystafell gefn Clwb y Bont wedi ei gwblhau.

Ar fore Gwener 12fed o Orffennaf, daeth dwy ddisgybl o Ysgol Rhyd-y-waun, Manon Thomas a Darya Williams i fwrw ati, dan oruchwyliaeth Dai Williams a Daniel Thomas.

chwith i’r dde: Dai Williams, Darya Williams, Manon Thomas, Daniel Thomas.

Roedd y gwaith yn adlewyrchiad o’r graffiti gwreiddiol ar furddun tu allan i Llanrhystud – gafodd ei baentio gyntaf wrth gwrs gan un o feibion amlycaf Pontypridd, Meic Stephens.

The work of placing a ‘Cofiwch Dryweryn’ mural on the wall of the events room in Clwb y Bont is now complete.

On Friday morning 12th July two students from Rhyd-y-waun school, Manon Thomas and Darya Williams, came in to carry out the work, supervised by Dai Williams and Daniel Thomas.

The artwork closely followed the original graffiti on a wall outside Llanrhystud, which was first painted by one of Pontypridd’s most famous sons, Meic Stephens.

Pwyllgor / Committee

10/07/19

Rydym yn chwilio am bobl sydd a diddordeb ymuno a Pwyllgor Clwb Y Bont ym Mhontypridd – clwb cymdeithasol, dwyieithog. Mae’n lot o hwyl ac mae gyda ni gynlluniau cyffrous ar gyfer y flwyddyn nesaf! Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch a ni :- clwbybont@gmail.com .

We’re looking for people to join the committee of Clwb Y Bont, Pontypridd. It’s a lot of fun and a great way to promote Welsh culture in the valleys. If you are interested please get in touch:- clwbybont@gmail.com