Clwb y Bont in Pontypridd was opened in September 1983 by Dafydd Iwan, and since then it has developed a great reputation as a venue for diverse cultural events, as well as a friendly and relaxed place to socialise.

Agorwyd Clwb y Bont ym Mhontypridd ym Medi 1983 gan Dafydd Iwan, ac ers hynny mae wedi datblygu enw da fel canolbwynt ar gyfer digwyddiadau diwyllianol amrywiol, yn ogystal â lle cyfeillgar a hamddenol i gymdeithasu.

FUNCTION ROOM
To book our function room for your event, or for any other inquiries, please email clwbybont@gmail.com


MEMBERSHIP / AELODAETH

You don’t have to be a member to come to the Clwb, but membership is open to all. As well as helping to support the ongoing existence of the clwb, you will receive discounted entry to many of our events and free hire of the function room. For more information, please email clwbybont@gmail.com

Nid oes yn rhaid ymaelodi i ymweld a’r Clwb, ond mae aelodaeth yn agored i bawb. Mae aelodaeth yn cyfrannu at fodolaeth y Clwb, ac yn cynnig arbedion ar nifer o weithgareddau gan gynnwys llogi’r stafell ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: clwbybont@gmail.com

EIN HANES / OUR STORY

Sefydlwyd Clwb y Bont yn ystod blynyddoedd olaf y 60au pan ddaeth grŵp o bobl at ei gilydd a oedd yn rhannu’r un diddordebau a meddylfryd, sef hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymreig. Wedi 15 mlynedd o chwilio, fe ddaethant o hyd i hen warŵs ar lanau’r Taf gan weld llawn botensial y lle. Fe ddaeth aelodau Clwb y Bont at ei gilydd i brynu’r adeilad, gyda chefnogaeth bragdai lleol Cymreig. Cwblhawyd yr holl waith adnewyddu gan yr aelodau yn wirfoddol ac mae’r traddodiad hwn wedi hyd parhau hyd heddiw.

Clwb y Bont began life in the late 60s when a group of like-minded people came together with a common patriotic interest – to further the Welsh language and culture. After 15 years of searching, they found a derelict stone-built warehouse on the banks of the river Taff and saw its potential. The members of the club bought the building between them, supported by local Welsh breweries. All the renovation work was done by the members on a voluntary basis and this tradition has survived until the present day.

Clwb â gwir ethos gydweithredol oedd Clwb y Bont o’r cychwyn cyntaf – clwb wedi’i redeg gan ei aelodau ac iddo nod a phwrpas unigryw. Yn wahanol i glybiau eraill a ffurfiwyd yng Nghymoedd y De ar y pryd, nid oedd y Clwb wedi’i gysylltu i’r un grŵp penodol ac felly roedd mewn sefyllfa i gefnogi a hybu’r iaith. Mae Clwb y Bont yn dal i gynnig cyfle gwych i siaradwyr Cymraeg ar bob lefel i ddod ac ymarfer eu Cymraeg, er nid oes rhaid i chi siarad Cymraeg i ddod yma!

Clwb y Bont was a true members co-operative with a unique purpose. Unlike other clubs formed in the South Wales Valleys at the time, Clwb y Bont was not affiliated to a specific group, and as such it offered a capability to support the Welsh language that few other clubs could. Clwb y Bont still provides a great opportunity for Welsh speakers at all levels to come along and speak in Welsh, although – contrary to a popular misconception – you don’t have to speak Welsh to come here!

Mae Clwb y Bont yn parhau i gynnal yr ethos wreiddiol a byddwch yn dal i weld ystod eang o ddigwyddiadau diwyllianol a chymunedol yma, hip-hop, barddoniaeth, bandiau roc, ffilmiau a noson cwis. Ceir clybiau jazz, blues a gwerin a phob math o gymdeithasau a grŵpiau lleol yn cwrdd.

Clwb y Bont continues to uphold the ethos of its founding members and you will still find a diverse range of events held here in Welsh and English, from hip-hop and poetry to rock bands, films and quiz nights. Regular favourites include jazz, blues and folk nights, and the Clwb is also used by members and groups to hold meetings and events.